Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]

Telerau ac amodau defnyddio

Ymwadiad

-*-Bydd Cyngor Caerdydd yn ceisio sicrhau bod y wefan hon yn gywir ac yn ddibynadwy, ond nid yw'n rhoi unrhyw sicrhad o ran pa mor gywir, dibynadwy, cyflawn neu addas yw'r wybodaeth, y cynnyrch, y gwasanaethau a'r graffigau cysyllteidig ar y wefan hon, a hynny i unrhyw bwrpas. Ni fydd Cyngor Caerdydd, ei staff, ei gyflenwyr na phartïon eraill sy'n gweithio i greu a darparu'r wefan hon yn atebol am unrhyw ddifrod, colled neu anghyfleustra sy'n deillio o ddibynnu ar gynnwys y wefan hon nac o'i defnyddio, boed yn uniongyrchol, yn anuniongyrchol, yn ddamweiniol, yn arbennig neu'n ôl-ddilynol.

Telerau ac amodau defnyddio

Darperir y wefan hon a'r defnydd ohoni gan Gyngor Caerdydd, yn unol â'r telerau a'r amodau hyn:

  1. Drwy ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n derbyn y telerau a'r amodau hyn sy'n berthnasol o'r dyddiad cyntaf y byddwch yn defnyddio'r safle. Mae gan Gyngor Caerdydd yr hawl i newid y telerau a'r amodau hyn unrhyw bryd drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Bydd parhau i ddefnyddio'r safle hwn ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu postio yn dynodi eich bod yn derbyn y telerau a'r amodau newydd.
  2. Rydych yn defnyddio'r wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun. Ni cheir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho, postio, darlledu na throsglwyddo'r deunydd mewn unrhyw ffordd ar wahân i'ch defnydd personol ac anfasnachol eich hun yn eich cartref. Bydd angen cael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw i ddefnyddio'r wefan mewn unrhyw ffordd arall.
  3. Rydych chi'n cytuno mai dim ond at ddibenion cyfreithlon y byddwch yn defnyddio'r safle hwn, a hynny mewn ffordd nad yw'n amharu ar hawliau unrhyw drydydd parti nac yn eu cyfyngu neu'n eu hatal rhag mwynhau'r safle hwn, nac yn achosi niwsans, anghyfleustra neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti. Mae cyfyngiadau neu atal o'r fath yn cynnwys ymddygiad anghyfreithlon, sarhaus neu ymosodol neu ymddygiad sy'n aflonyddu neu'n achosi trallod, anghyfleustra, niwsans neu fygythiad i unrhyw berson, a throsglwyddo deialog anweddus, bygythiol neu ymosodol ar y safle neu amharu ar lif arferol deialog ar y safle, ac nid oes unrhyw gyfyngiadau ar hynny.
  4. Mae'r wefan yn cynnwys dolenni i safleoedd eraill, nad ydynt yn cael eu cynnal o anghenraid gan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y safleoedd hyn ac nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb a allai godi mewn perthynas â defnyddio safleoedd o'r fath.
  5. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r deunydd ar y wefan hon yn wir ac yn gywir, ond nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am gamgymeriadau neu wybodaeth sydd ar goll, ac nid yw'r Cyngor chwaith yn gwarantu y bydd modd defnyddio'r safle'n ddiymyrraeth. Mae'r Cyngor yn darparu'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi ar y wefan ar y sail na fydd unrhyw warantau ar gyfer deunydd o'r fath yn berthnasol, boed wedi'u datgan neu'n ymhlyg yn y deunydd. Nid yw'r Cyngor, ei staff, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled o ran busnes, refeniw neu elw, nac unrhyw ddifrod arbennig sy'n deillio o gyhoeddi'r deunydd ar y wefan hon neu ddefnyddio'r wefan hon, boed hynny'n uniongyrchol, yn anuniongyrchol, yn ddamweiniol neu'n ôl-ddilynol.
  6. Rydych chi'n cydnabod yr holl hawliau eiddo deallusol gan gynnwys hawliau hawlfraint a chronfeydd data ar wefan y Cyngor, ac yn cydnabod bod y cynnwys yn berchen neu wedi'i drwyddedu i'r Cyngor sydd fel arall yn defnyddio'r cynnwys hwnnw yn unol â'i hawliau cyfreithiol.
  7. Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu, gwrthod postio neu gael gwared ar unrhyw ddeunydd a anfonir neu a bostir ar y safle hwn. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd a bostir ar y safle gan unrhyw un ar wahân i'r Cyngor, ac nid yw'n derbyn unrhyw atebolrwydd am ddeunydd o'r fath. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiadau, cynigion neu wybodaeth arall a fynegir neu sydd ar gael drwy bob trydydd parti ar safle'r Cyngor yn eiddo i'r partïon hynny'n unig. Nid yw'r Cyngor yn cefnogi nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd gan drydydd parti o'r fath.
  8. Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr yn berthnasol i'r telerau a'r amodau hyn. Bydd unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r telerau a'r amodau hyn yn cael ei ddatrys drwy awdurdodaeth Llysoedd Barn Cymru a Lloegr yn unig.
  9. Os bydd unrhyw beth ar y wefan hon yn achosi pryder i chi, rhowch wybod i ni.
  10. Os na fyddwch chi'n fodlon gydag unrhyw ran o'r wefan hon neu gydag unrhyw un o'r telerau a'r amodau defnyddio, rhowch y gorau i ddefnyddio'r safle ar unwaith.
Os pennir bod unrhyw un o'r telerau neu'r amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu'n anorfodadwy, yna i'r graddau y mae'r telerau neu'r amodau hynny'n anghyfreithlon, yn annilys neu'n anorfodadwy, byddant yn cael eu dileu o'r cymal hwn a bydd y telerau a'r amodau eraill yn dal yn berthnasol, mewn grym llawn ac yn dal i rwymo a chael eu gorfodi.





ID: 225