
Dydd
Sadwrn 21 Mehefin a dydd Sul 22 Mehefin Gan ein bod yn cynnal Joust! y penwythnos
hwn, bydd yr holl docynnau mynediad yn costio £14 i oedolion a £10
i blant. Sylwer
nad ywr pris yn cynnwys taith dywys o amgylch y Castell. Gellir prynu tocynnau
am y teithiau tywys am £2.50 ychwanegoI i oedolion a £1.50 i blant |
| 
Ar gyfer trigolion neu weithwyr Caerdydd yn unig
|
Mae
Castell Caerdydd yn un o atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Gwelir yng
nghanol y Brifddinas, gerllaw siopau canol y ddinas a Pharc Bute godidog, mae
tyrau tylwyth teg hudolus y Castell yn cuddio'r ystafelloedd ysblennydd. Ceir
hanes sy'n ymestyn bron i 2,000 o flynyddoedd, ers dyddiau'r Rhufeiniaid yn y
ganrif gyntaf OC tu mewn i'r waliau grymus. Ar ôl Concwest y Normaniaid,
adeiladwyd Tw r y Castell ac fe'i dilynodd â nifer o wrthgloddiau
ac anheddau Canoloesol wedi hynny. |
|
Daeth
nifer o deuluoedd pendefigaidd i feddiannu'r Castell, hyd 1766, pan gafodd ei
roi drwy briodas i'r teulu Bute. Ail Farcwis Bute oedd yn gyfrifol am droi Caerdydd
yn borthladd allforio glo mwyaf llewyrchus y byd. Cafodd y Castell a chyfoeth
Bute ei basio ymlaen i'w fab John, y 3ydd Marcwis, a oedd erbyn y 1860au, y dyn
mwyaf cyfoethog yn y byd, yn ôl pob tebyg.
 |
O 1866 cyflogodd
y 3ydd Marcwis y pensaer arbennig William Burges i drawsffurfio tai llety'r Castell.
Yn y tyrau gothig creodd ystafelloedd helaeth a godidog, â chyfoeth o furluniau,
gwydr lliw, marmor, eurwaith a cherfweithiau pren manwl. Mae gan bob ystafell
ysblennydd ei thema arbennig ei hun, gan gynnwys gerddi Canoldirol ac addurniadau
Eidalaidd ac Arabaidd. Yn
ogystal ag ymweld â'r ystafelloedd ysblennydd, gall ymwelwyr fwynhau tir
y Castell, lle ceir peunod, hwyaid a gwyddau'n crwydro'n rhydd, a gellir mwynhau
egwyl yn Ystafelloedd Te y Castell sy'n cynnig croeso cynnes am goffi, cinio ysgafn
a the prynhawn. Ac
i orffen, gall ymweliad i'r siop anrhegion wrth y brif fynedfa ddarparu rhywbeth
i gofio'r safle unigryw hwn. |
© Hawlfraint
Cyngor Caerdydd 2006 |