english
Rhufeinig / Celtaidd

Mae'r cyfnod Rhufeinig ym Mhrydain yn ymestyn o 43 OC i 410 OC.

Yng Nghymru, cychwynnodd gyda dyfodiad Byddin Rhufain tua 48 OC. Cymerodd tua 30 mlynedd iddyn nhw goncro Cymru.

Yr adeg honno, roedd pump o lwythau Celtaidd pwysig yn byw mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Enw'r llwyth a oedd yn byw yn Ne Cymru (gan gynnwys ardal Caerdydd heddiw) oedd y Silwriaid.

Roedd y Silwriaid yn bobl gref, ddewr a amddiffynnodd eu tir yn ffyrnig, ac mae'n debyg eu bod wedi brwydro’n galed yn erbyn y Rhufeiniaid.

Arhosodd y Rhufeiniaid yng Nghymru am fwy na 350 mlynedd a byddai’r rhan fwyaf o’r cyfnod hwnnw wedi bod yn heddychlon. Yn raddol daeth y bobl leol i dderbyn eu rheolaeth, gan ddysgu o’u syniadau a’u dyfeisiadau a mabwysiadu eu ffordd o fyw.

Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Y Castell

Cododd y Rhufeiniaid bedair caer yng Nghaerdydd. Y mwyaf o’r pedair oedd y cyntaf i’w chodi. Petai’r gaer honno’n dal i sefyll heddiw, ni fyddai'n bosib i chi yrru heibio'r Castell!

Roedd yn ymestyn dros y ffordd y tu blaen ac wrth ochr y Castell a thros rannau o'r ardal sy’n cael ei hadnabod fel Parc Bute heddiw (ar y ddwy ochr arall i'r Castell).

Roedd yr ail a’r drydedd gaer yn llawer llai. Roedd rhannau o’r caerau ar dir sydd bellach yn rhan o Barc Bute. Os edrychwch chi ar y mur gyferbyn â phrif fynedfa’r Castell, roedd rhannau o’r gaer gyntaf, yr ail a’r drydedd y tu hwnt i’r mur hwnnw.

Y bedwaredd gaer oedd y mwyaf ond un. Petaech mewn awyren yn hedfan dros Gastell Caerdydd heddiw ac yn edrych i lawr arni, mae’r muriau allanol yn dangos maint y bedwaredd gaer.

Gweld sut mae’r castell wedi newid dros yr oesoedd

Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Pwy oedd yn teyrnasu

Tra’r oedd y Rhufeiniaid ym Mhrydain, roedd ganddyn nhw lawer o wahanol ymerawdwyr yn Rhufain- llawer gormod i sôn amdanyn nhw yma! Dim ond am gyfnod byr iawn yr oedd rhai ohonyn nhw'n llywodraethu.

Yn ôl y sôn, o’r ymerawdwr cyntaf (Awgwstws) tan y flwyddyn 395 OC, roedd 147 ohonynt! Chwiliwch ar y we ac mewn llyfrau i weld os gallwch chi ganfod faint o ymerawdwyr fuodd rhwng 43 a 410 OC.

Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Caerdydd

Petaech chi’n Rhufeiniwr yn cyrraedd yng Nghaerdydd am y tro cyntaf, byddai wedi edrych yn hollol wahanol i’r ffordd y mae’n edrych heddiw.

Byddai’r Rhufeiniaid wedi gallu gweld y môr, sef ardal Bae Caerdydd heddiw, yn glir a'r mynyddoedd cyfagos.

Byddai Afon Taf sydd heddiw’n llifo drwy Barc Bute o'r môr wedi bod yn llawer agosach at y Castell. Byddai’r Rhufeiniaid wedi ystyried ei fod yn lle da i godi caer gan fod yr afon mor agos. Roedd yn golygu y gallan nhw fod wedi cludo'r nwyddau yr oedd eu hangen arnyn nhw i adeiladu'r gaer a llawer o'r bwyd yr oedden nhw ei angen mewn cychod, a byddai wedi gwneud masnachu â gwledydd eraill yn llawer haws.

Yn ddiweddar, daethpwyd o hyd i dystiolaeth sy’n dangos bod pobl wedi bod yn byw ar y tir lle saif Castell Caerdydd heddiw cyn cyfnod y Rhufeiniaid, ond ychydig iawn a wyddom amdanyn nhw ar hyn o bryd. Dim ond amser a ddengys!

Defnyddiwch y saeth ‘Nesaf’ i ddysgu mwy am y cyfnod hwn mewn hanes.
Gwen Marcius Edmund Hywel Owain Clara Lady Mary Reginald
RhufeinigNormaniadd/CanoloesolFictoraiddYr Ail Ryfel Byd